Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-05-905

Teitl y ddeiseb: Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Geiriad y ddeiseb: Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad barnwrol cwbl annibynnol i reoli a gweithredu rhaglen GIG De Cymru ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf a’i heffaith ar y gwasanaethau a ddarperir i bobl yn Rhondda Cynon Taf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Cefndir

Sefydlwyd Rhaglen De Cymru yn 2012 i ystyried dyfodol pedwar gwasanaeth ysbyty y nodwyd eu bod yn gynyddol fregus, sef gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorydd, gofal newyddenedigol, pediatreg cleifion mewnol a meddygaeth frys (adrannau damweiniau ac achosion brys).

Mae Rhaglen De Cymru yn rhychwantu pum bwrdd iechyd – sef Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf a Phowys – gan weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda'r nod o greu gwasanaethau ysbyty diogel a chynaliadwy i bobl yn ne Cymru a de Powys.

Er bod gwaith Rhaglen De Cymru yn canolbwyntio ar bedwar gwasanaeth ysbyty penodol, mae’r ddogfen ymgynghori gyhoeddus (Mai 2013) yn nodi y bydd cyfraniad gofal sylfaenol, yn enwedig meddygon teulu a'u timau, yn hanfodol wrth ddarparu'r gofal integredig sydd ei angen ar gleifion.

Rydym yn derbyn yn llawn y bydd angen i ni mewn rhai ardaloedd gryfhau ein gwasanaethau meddygon teulu, yn arbennig yn y cyfnod tu allan i oriau.

Fel rhan o Raglen De Cymru, cynhaliwyd cyfres o gynadleddau ac uwchgynadleddau clinigol yn ystod 2012. Daethpwyd i'r casgliad, er mwyn mynd i'r afael â materion recriwtio, sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni'r safonau proffesiynol a chlinigol angenrheidiol, a darparu gofal diogel ac effeithiol i'r cleifion mwyaf sâl a mwyaf difrifol eu hanafiadau, fod angen darparu'r gwasanaethau hyn ar lai o safleoedd ysbytai nag oedd yn digwydd ar y pryd.

Cyflwynwyd y syniadau a ddatblygwyd yn y cynadleddau clinigol i'r cyhoedd a'r GIG ehangach yn ystod proses ymgysylltu 12 wythnos rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2012, a chafwyd cefnogaeth helaeth a chyffredinol iddynt.

Yn dilyn y cyfnod ymgysylltu hwnnw, cynhaliwyd cynhadledd glinigol arall ym mis Chwefror 2013, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y newidiadau i wasanaethau. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol am 8 wythnos rhwng 23 Mai ac 19 Gorffennaf 2013.

Cynhaliwyd trafodaethau gyda'r holl sefydliadau partner. Roedd pob un o’r byrddau iechyd o blaid creu tair cynghrair gofal acíwt ar draws de Cymru a de Powys, ac yn cytuno y dylid darparu meddygaeth frys dan arweiniad ymgynghorydd (damweiniau ac achosion brys), gofal mamolaeth a newyddenedigol a gwasanaethau plant cleifion mewnol mewn pum canolfan. Mae datganiad i'r wasg ym mis Mawrth 2014 – Bwrdd Rhaglen De Cymru yn cytuno ar y camau nesaf – yn nodi bod hyn yn cyd-fynd â mwyafrif yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus.

Mewn perthynas ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cytunwyd ar y canlynol:

·         Bydd modelau gwasanaeth lleol ym maes meddygaeth frys, asesu pediatrig a gwasanaethau mamolaeth yn cael eu datblygu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i gymryd lle’r gwasanaethau traddodiadol.

·         Ni fydd gwasanaethau plant cleifion mewnol yn cael eu darparu ar safle ysbyty Brenhinol Morgannwg yn y dyfodol ond bydd eu gweithredu yn gofyn bod gwasanaeth asesu lleol newydd ar waith wrth i'r newidiadau ddigwydd, a hynny i sicrhau bod plant yn parhau i gael gofal diogel, mor lleol â phosibl.

·         Ni fydd gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad ymgynghorydd yn cael eu darparu ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn y dyfodol, ond bydd gweithredu hyn yn gofyn bod y model newydd arfaethedig ar gyfer gwasanaeth damweiniau ac achosion brys (nad yw dan arweiniad ymgynghorydd) ar waith wrth i'r newidiadau ddigwydd.

·         Bydd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gweithio'n agos gydag unedau eraill yn y cynghreiriau i ddarparu cymaint o ofal diogel mor lleol â phosibl. Bydd y model terfynol ar gyfer gwasanaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei bennu drwy'r broses cynllunio trefniadau pontio a gweithredu.

·         Hefyd, cytunwyd yn llwyr y bydd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dod yn safle disglair ar gyfer datblygu modelau gofal arloesol ym maes meddygaeth acíwt a gwasanaethau diagnostig.

Gweithredu'r newidiadau

Ym mis Gorffennaf 2018, ymatebodd y Gweinidog Iechyd i bryderon bod newidiadau’n digwydd yn araf yng ngwasanaethau de Cymru. Dywedodd:

Your point about the South Wales Programme is well-made. It was clinician-led. There was agreement on what to do, and we have achieved a number of those things but, again, it usefully highlights the point about the pace and the scale of change. We have taken a long time not to deliver all of the programme, and that's one of the things we need to be able to get over and get around for the future, because the pace at which we're able to move frustrates everyone, it makes people anxious about whether change will really happen and it means that we don't deliver the improvements we recognise are necessary as quickly as possible. So, yes, the south Wales work is still being delivered, and key building blocks have happened, but I want to see much greater pace in the future for the change that we are talking about.

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb

Gan gyfeirio at Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi:

Roedd nifer o ganlyniadau i'r ymgynghoriad a oedd yn arwyddocaol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan gynnwys newidiadau i ddatblygiad yr ysbyty fel safle disglair ar gyfer meddygaeth acíwt a sefydlu Canolbwynt Diagnostig. Mae pob un o'r newidiadau hyn wedi cael eu gweithredu.

Mae'r ymateb yn rhoi diweddariad ar newidiadau yn y gwasanaethau ysbyty yr ymgynghorwyd arnynt o dan Raglen De Cymru, a meysydd penodol eraill a godwyd gan y deisebydd, gan gynnwys gofal sylfaenol/meddygon teulu a gwasanaethau y tu allan i oriau.

Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod y Bwrdd Iechyd yn datblygu Strategaeth Gofal Iechyd Integredig a fydd yn amlinellu ei gyfeiriad strategol tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys goblygiadau ehangach y newid ffiniau ym mis Ebrill 2019, lle trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar ei ffurf newydd.